Mae mwyafrif mawr o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus Blaenau Gwent wedi pleidleisio o blaid streicio, yn dilyn ffrae ynghylch cyflogau.

Cafodd y bleidlais ei chynnal ar gyfer aelodau o’r undeb Unsain sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, sy’n gyfrifol am nifer o lyfrgelloedd, canolfannau hamdden a pharciau o fewn y sir.

Fe bleidleisiodd 88.1% o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, mewn pleidlais a ddenodd 68.7% o’r aelodau.

Cyflogau teg

Yn ddiweddar, fe wrthododd gweithwyr Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin gynnydd o 0.5% yn eu cyflogau dros gyfnod o flwyddyn oherwydd nad oedd yn ddigon.

Dywed Unison Cymru fod chwyddiant wedi cynyddu 7% ers 2016, a bod angen i gyflogau’r gweithwyr adlewyrchu hynny.

“Mae’r bleidlais hon o blaid gweithredu’n ddiwydiannol yn anfon neges glir i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin fod ei gweithwyr wedi cael digon, a bod angen i rywbeth newid,” meddai llefarydd ar ran Unsain Cymru.

“Mae staff yn ei chael hi’n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd ac, er gwaethaf eu hymrwymiad i’w swyddi a’r gwasanaeth y maen nhw’n ei ddarparu i’r gymuned ehangach, dydyn nhw ddim wedi cael codiad cyflog ers Ebrill 2016.

“Ers hynny, mae chwyddiant wedi cynyddu 7%. Yr hyn mae’r gweithwyr yn gofyn amdano yw cyflog teg.”

Yn gyfreithiol, yr adeg gynharaf y gall streic gael ei gynnal gan yr undeb yw Tachwedd 7, ond mae’n nhw’n mynnu eu bod yn agored i gynnal trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.