Heddiw, fe fydd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, yn egluro pam y mae am gael pwerau newydd i gyflwyno treth ar dir gwag.

Fe fydd yn annerch brecwast yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac yn sôn am y rhan o Deddf Cymru 2014 sy’n rhoi’r hawl i’r llywodraeth gyflwyno syniadau newydd ar gyfer trethi mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.

Byddai modd defnyddio teth ar dir gwag i annog pobol i beidio â “bancio tir” ac i ddatblygu safleoedd gwag er mwyn codi tai newydd yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gweithio ar hyn o bryd ar y broses o drosglwyddo pwerau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio dechrau trafodaethau â Thrysorlys ei Mawrhydi yn ystod y misoedd sydd i ddod, a’r nod yw cael y pwerau yn y Flwyddyn Newydd.

“Ar ôl hynny, byddwn yn gallu dechrau ar ddatblygu polisi yn fwy ffurfiol.”