Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs wedi herio’i dîm i ennill dyrchafiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl trechu Iwerddon o 1-0 yn Dulyn neithiwr (nos Fawrth, Hydref 16).

Sicrhaodd Cymru’r fuddugoliaeth yn Stadiwm Aviva drwy gic rydd Harry Wilson, er eu bod nhw heb ddau o’r hoelion wyth, Gareth Bale ac Aaron Ramsey.

Manteisiodd y chwaraewr ifanc ar dacl flêr Harry Arter ar Connor Roberts ar ôl 58 munud i roi’r flaenoriaeth i’w dîm.

Fe fyddan nhw’n wynebu Denmarc fis nesaf, gan wybod eu bod nhw ym mhot 2 ar gyfer Ewro 2020.

Dywedodd Ryan Giggs, “Fe wnaethon ni anelu yng Nghynghrair y Cenhedloedd i ennill y grŵp a gweld lle’r oedd hynny’n mynd â ni, ac mae’n dda y gallwn ni wneud hynny gydag un gêm yn weddill.

“Nawr, y peth nesaf i’w wneud yw ennill. Fydd hi ddim yn hawdd – mae gyda ni Ddenmarc gartref – ond bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn rocio, mae hynny’n sicr, a dw i’n edrych ymlaen at yr her nawr.”