Roedd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol a chroesawu’r seiclwr Geraint Thomas yn hwb sylweddol i nifer yr ymwelwyr ag adeilad y Senedd yn ystod mis Awst.

Aeth 18,371 trwy ddrysau cartre’r Cynulliad yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos, gyda 29,285 o bobol yn ymweld â’r Pierhead gerllaw.

Roedd y Senedd yn gartref i’r Lle Celf a Phafiliynau’r Cymdeithasau, tra bod Shw’mae Caerdydd, canolfan y dysgwyr, wedi’i chynnal yn y Pierhead.

Yn ystod yr wythnos rhwng Awst 3-11, roedd cyfle i’r cyhoedd ymweld â phrif Siambr y Cynulliad am y tro cyntaf erioed, ac fe aeth 5,595 o bobol drwy’r drysau, a nifer sylweddol o bobol yn manteisio ar y cyfle i gael tynnu eu llun yng nghadair y Llywydd.

Cafodd enillydd ras feics Tour de France, Geraint Thomas ei groesawu’n ôl i Gymru yn ystod yr wythnos, ac fe ddiolchodd y Llywydd a’r Prif Weinidog Carwyn Jones iddo ar ran pobol Cymru ar risiau’r Senedd.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, “Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn gyfle bendigedig i ni, nid yn unig i gynnal rhai o brif weithgareddau’r Ŵyl, ond hefyd i groesawu cynifer o ymwelwyr newydd drwy’r drysau.

“Doedd hanner y rhai a ddaeth erioed wedi ymweld â’r Senedd o’r blaen. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant arwyddocâol i ni, wrth inni ymgysylltu â phobl o bob cwr o Gymru ac ymwelwyr o’r tu hwnt.

“O’r ymateb a gafwyd, roedd yn amlwg yn fodd gwerthawr o helpu pobl i wella eu dealltwriaeth o’r Cynulliad ac i gynyddu eu diddordeb yn ein gwaith. Mawr obeithiaf y bydd hyn yn arwain at gyfleoedd eraill, ac rwy’n edrych ymlaen at weld Eisteddfod yr Urdd yma fis Mai nesaf.”

Sesiynau’r Cynulliad

Cafodd sesiynau arbennig eu cynnal yn y Cynulliad yn ystod yr wythnos, gyda thrafodaethau ar fenywod ym myd gwleidyddiaeth a rhoi’r bleidlais i bobol 16 oed.

Cafodd y sesiynau eu darlledu’n fyw ar Facebook.

Fe fydd y Senedd yn croesawu Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf rhwng Mai 27 a Mehefin 1.

Erbyn hynny, fe fydd y Senedd ym mlwyddyn gyntaf Senedd Ieuenctid Cymru.