Mae cyn-breswylydd mewn cartref gofal plant yng ngogledd Cymru wedi cael ei ddedfrydu i fwy na thair blynedd o garchar am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol.

Fe gafodd Graham Stridgeon, sydd bellach yn dwyn yr enw Tony Gordon ac yn byw yn Fleetwood, Swydd Gaerhirfryn, ei ganfod yn euog yn Llys y Goron y Wyddgrug fis diwethaf.

Mae’n euog o gam-drin plentyn sy’n dyddio’n ôl i’r 1970au, tra”r oedd yn byw yng nghartref plant Bryn Alyn.

Cafodd y troseddau eu cyflawni rhwng mis Mehefin 1973 a Rhagfyr 1974, ac mae’n debyg bod Graham Stridgeon flynyddoedd yn hŷn na’i ddioddefwr, a oedd hefyd yn byw yn y cartref.

Roedd yr ymchwiliad i’r troseddau hyn yn rhan o ‘Ymgyrch Pallial’ yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NTA), sy’n ymchwilio i achosion o gam-drin yn y system ofal yng ngogledd Cymru.