Mae aelod o Gyngor Sir Powys yn dweud bod angen bod yn ofalus iawn ynglyn â phrosiect i ddad-ddofi rhannau o gefn gwlad canolbarth Cymru.

Daw sylwadau Elwyn Vaughan yn sgil pryderon gan un o brif swyddogion NFU Cymru ddoe (dydd Mawrth, Hydref 16), a ddywedodd fod y bwriad gan yr elusen ‘Rewilding Britain’ i ddefnyddio rhannau o ogledd Ceredigion a Phowys fel ardal arbrawf yn “hollol wallgof”.

Mae prosiect ‘O’r Mynydd i’r Môr’ wedi derbyn cyllid gwerth £3.4m, a’r gred ydi mai bwriad ‘Rewilding Britain’ yw ailgyflwyno anifeiliaid cynhenid i fyd natur.

Bydd yr ardal arbrofi yn cynnwys 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr, ac mae’r elusen wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o sefydliadau cadwriaethol yng Nghymru.

‘Rhaid parchu’r gymuned leol’

Yn ôl Elwyn Vaughan, sy’n gynghorydd ar ardal Glantwymyn, Dyffryn Dyfi, mae’r prosiect yn enghraifft arall o “werthoedd trefol yn cael eu gorfodi ar ardal wledig Gymreig heb ystyried y bobol, traddodiadau, yr iaith a’r diwylliant”.

“Ni ellir gwahanu cynaladwyedd amgylcheddol oddi wrth cynaladwyedd cymdeithasol ac ieithyddol arbennig yr ardal yma, ac felly mae angen i arweinwyr y cynllun yma rhoi y gwerthoedd hynny yn ganolog i’r prosiect,” meddai.

“Oherwydd hynny, dw i wedi gofyn am gyfarfod brys efo swyddogion y cynllun ac wedi gofyn i’r Aelod Seneddol, Ben Lake, i gynorthwyo i drefnu cyfarfod ar y cyd, gan gynnwys yr Undebau Amaethyddol a Mentrau Iaith yn y cyfarfod.

“Rydym wedi arfer gweld llethrau Pumlumon, boed yn goedwig Hafren neu Llyn Clywedog, yn cael eu newid dan law grymoedd estron – tro yma, mae angen i’r rhai estron hynny barchu y gymuned leol, a thrwy hynny yn llawer fwy tebygol o lwyddo yn eu hymdrechion.”