Mae dynes 32 oed wedi’i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad yn Llangefni, wedi i brawf post mortem ddangos na chafodd dyn ei lofruddio mewn tafarn yn y dref.

Fe ddaeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru o hyd i gorff Philip Hughes, 52, o Aberffraw mewn toiled yn nhafarn y Market yng nghanol Llangefni yn ystod oriau mân dydd Mawrth (Hydref 16).

Er bod y farwolaeth yn dal i gael ei thrin fel un heb esboniad, dydi hi ddim yn cael ei hystyried fel llofruddiaeth bellach.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.