Mae nifer yr achosion o gasineb crefyddol wedi cynyddu 40% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mae’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod 5,949 achos o gasineb crefyddol wedi’u cofnodi yn 2016/17, ond bod bron 2,400 yn fwy wedi’u cofnodi ar gyfer eleni.

Y cyfanswm o droseddau casineb ar gyfer y cyfnod 2017/18 yw 94,098, sef cynnydd o 17% ers y llynedd a mwy na dwbwl yr hyn a gafodd ei gofnodi bum mlynedd yn ôl, pan oedd y cyfanswm yn 42,255.

Ond mae adroddiad gwahanol gan Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn dangos bod troseddau casineb wedi gostwng 40% yn ystod y degawd diwethaf.

Y ffigyrau

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae’r cynnydd mewn troseddau casineb yn rhannol oherwydd bod yr heddlu yn eu hadnabod a’u cofnodi’n well.

Ond maen nhw hefyd yn dweud bod troseddau o’r fath wedi tueddu i ddod yn fwy niferus yn dilyn digwyddiadau fel y refferendwm tros Brexit yn 2016 a’r ymosodiadau brawychol y llynedd.

Yn y cyfanswm o 94,098, mae 71,251 o’r troseddau’n cael eu cyfri’n rhai sy’n seiliedig ar hil, tra bo 11,636 (+27%) yn seiliedig ar ogwydd rhywiol person; 7,226 (+30%) ar anabledd; a 1,651 (+32%) oherwydd bod person yn drawsryweddol.

Mae rhai troseddau wedi cael eu nodi dwywaith yn yr adroddiad oherwydd bod yna sawl cymhelliad y tu ôl i’r casineb.

“Pryderus”

“Mae’n bryderus gweld y nifer o droseddau casineb sydd wedi’i gofnodi yn fwy na dyblu mewn cyfnod o bum mlynedd,” meddai Alex Mayes, o’r elusen Victim Support.

“Ond dyw’r cynnydd hwn ddim yn adlewyrchu’r ymwybyddiaeth ehangach am droseddau casineb na’r ffordd y mae’r heddlu’n ymateb yn well iddyn nhw.

“Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae troseddau casineb yn parhau i beidio â chael eu hadrodd.”