Arestio dynes, 32, ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Llangefni
Diweddarwyd am
Mae dynes 32 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn, 52, ym Môn.
Daeth plismyn o hyd i gorff y dyn o Aberffraw mewn toiled yn nhafarn y Market Vaults yng nghanol tref Llangefni toc wedi hanner nos neithiwr (oriau mân dydd Mawrth, Hydref 16).
Dydyn nhw ddim eto’n gwybod beth oedd achos y farwolaeth, ond maen nhw’n ei thrin fel un amheus.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.