Mae rhybudd am lifogydd yn parhau mewn grym mewn naw o ardaloedd yn ne-orllewin Cymru.

Daw hyn wrth i Gymru ddelio ag effeithiau Storm Callum dros y penwythnos, sydd wedi achosi llifogydd mawr mewn ardaloedd yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin yn bennaf.

Fe fu farw  Corey Thomas Sharpling, 21 oed, o Gastellnewydd Emlyn, yn dilyn tirlithriad ar yr A484 yn Cwmduad yn Sir Gâr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cynnal adolygiad o’u holl amddiffynfeydd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi’u heffeithio.

Mae nifer o ffyrdd yn parhau ynghau hefyd, a daeth cadarnhad bod naw o gychod wedi suddo yn harbwr Aberaeron o ganlyniad i’r storm.

Rhybudd am lifogydd

Ymhlith yr ardaloedd hynny lle mae Rhybudd Llifogydd mewn grym mae:

  • Caerfyrddin;
  • Llandeilo ac Abergwili;
  • Llandysul;
  • Llanybydder;
  • Llanbedr Pont Steffan;
  • Llechryd;
  • Cenarth;
  • Castellnewydd Emlyn;

Ffyrdd ynghau

Mae nifer o ffyrdd yn parhau ynghau yn yr ardaloedd hynny hefyd, gan gynnwys:

  • Pont Llechryd;
  • Pont Cenarth;
  • Pont Castellnewydd Emlyn;
  • B4343 Cellan;
  • B4459 Capel Dewi;
  • A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi;