Cer Rees ar X Factor
Cafodd cystadleuydd o Gymru ei “gwatwar” gan y beirniad Gary Barlow mewn golygfeydd gafodd eu torri allan o’r sioe, honnwyd heddiw.

Mae’r rhaglen eisoes wedi ei feirniadu o gymryd mantais o Ceri Rees, a ymddangosodd ar y rhaglen ddydd Sul, ar ôl cymryd rhan mewn tair clyweliad arall dros y blynyddoedd.

Mae elusennau iechyd meddwl wedi beirniadu’r penderfyniad i ddarlledu clyweliad Ceri Rees, oedd wedi ceisio canu I Dreamed A Dream o sioe gerdd Les Miserables yn ogystal ag I Will Always Love You.

Yn ôl adroddiadau gan bobol oedd yn y gynulleidfa roedd Gary Barlow wedi siarad â Ceri Rees ar ôl y perfformiad ond ni chafodd yr olygfa ei gynnwys yn y rhaglen derfynol.

Dywedodd Ashlei Swain wrth bapur newydd y Sun fod Gary Barlow wedi mynd i eistedd â Rees ar y llwyfan a dechrau mynd trwy ei bag.

“Roedd ganddi ei bag llaw ac roedd Gary Barlow yn holi pam ei fod mor arbennig iddi. Dechreuodd fynd drwyddo a dod o hyd i’w pasbort,” meddai.

“Cododd ef i bawb gael gweld a cheisio annog y gynulleidfa i chwerthin. Ond roedd pobol yn bwian.”

Dywedodd Mark Davies, cyfarwyddwr elusen Rethink Mental Illness, ei fod yn teimlo bod cynhyrchwyr y sioe wedi cymryd mantais o Ceri Rees.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw iechyd meddwl Ceri Rees, ond mae’n amlwg ei bod hi’n fregus ac wedi ei chaniatáu i fynd ar y llwyfan er mwyn methu,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y sioe fod yr X Factor ar gael i bawb gymryd rhan a bod Ceri Rees yn hapus i gymryd rhan unwaith eto.