Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw yn dilyn tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gâr.
Roedd Corey Thomas Sharpling yn 21 oed ac yn dod o Gastellnewydd Emlyn.
Dywedodd ei deulu eu bod yn “torri eu calonnau”, gan dalu teyrnged i’w “ffraethineb a’i ffyddlondeb”.
Maen nhw wedi diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth, ac i gydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ymchwiliad ar y gweill.