Mae meddyg amlwg yn ne Cymru wedi rhybuddio am epidemig o ddefnydd o gyffuriau steroid yn yr ardal.

Yn ôl y cardiolegydd Dr Nishat Siddiqi, does dim digon o gymorth ar gael i helpu’r dynion ifanc a chanol oed sy’n cael eu bachu ar gyffuriau o’r enw Ipeds – image and performance enhancing drugs.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y New Satesman, mae’n rhybuddio bod y cyffuriau yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl, salwch calon, anffrwythlondeb a gwendid yn yr esgyrn.

‘Cynnydd anferth’

‘R’yn ni wedi arfer i sgandalau cymryd cyffuriau ymhlith pobol chwaraeon ond ychydig sy’n hysbys am y cynnydd anferth mewn defnydd o Ipeds yn arbennig yn ne Cymru,’ meddai Nishat Siddiqi.

Mae’n dweud bod isddiwylliant wedi datblygu yn y Cymoedd, gyda’r dynion hyn yn cael eu galw yn ‘Valley Soldiers’ – er eu bod yn camddefnyddio cyffuriau, maen nhw’n credu, meddai, eu bod yn byw bywydau iach.

Fe ddangosodd ymchwil gan athro cardioleg ym Mhrifysgol Caerdydd bod tri dyn mewn un gampfa yn diodde’ o wendidau mawr ar eu calonnau oherwydd y cyffuriau steroid.

Arolwg

Yn 2016, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwain y gwaith o gynnal arolwg trwy wledydd Prydain i ddysgu mwy am y cyffuriau.

Roedd 181 o ddynion o Gymru wedi ateb holiadur, o blith bron 700 trwy wledydd Prydain. Roedd rhai wedi dechrau defnyddio ipeds mor ifanc â 14 neu 15 oed.

Roedd hwnnw’n awgrymu bod angen rhagor o ymchwil i fesur union faint y broblem – y gred yw bod cannoedd o filioedd o bobol yn defnyddio ipeds trwy wledydd Prydain – ac i ddysgu rhagor amdani.

‘Dim ond un clinig’

Yn ôl Nishad Siddiqi yn y New Statesman, mae angen mwy na’r un clinig sydd ar gael i ddelio â’r broblem – mae hwnnw, meddai, yn cael ei  gynnal gan ddoctoriaid a nyrsys gwirfoddol.

‘A finnau’n gardiolegydd, dw i wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n dod o’r clinic a meddygon teulu am gymorth i ddynion ifanc sydd, yn aml, â chlefyd cardio-fasgiwlaidd dwys… mae hyn yn broblem annisgwyl i Wasanaeth Iechyd sydd eisoes dan straen.’