Mae tafarn y Rhiw Goch yn ardal Trawsfynydd wedi cael ei dinistrio yn dilyn tân nos Sadwrn.

Mae’r dafarn ym Mronaber yn fwyaf adnabyddus am ei chysylltiad â’r merthyr o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, John Roberts.

Mewn neges ar dudalen Facebook y dafarn, dywed y perchnogion, “Yn anffodus, fe fu tân sylweddol yn y Rhiw Goch heno.

“Diolch byth nad oedd unrhyw un yn yr adeilad ar y pryd gan iddo ddigwydd tra ei bod ar gau.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth, cysylltwch â’r dudalen hon, os gwelwch yn dda.”

John Roberts

Cafodd John Roberts, mab fferm o Drawsfynydd, ei eni yn 1577.

Ac yntau’n dod o gefndir Protestanaidd, aeth i Loegr i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1595, cyn mynd yn ei flaen i astudio’r gyfraith yn Llundain.

Ond fe wnaeth e droi at Babyddiaeth yn dilyn ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Nôtre Dame yn Ffrainc.

O’r fan honno, symudodd i Sbaen a chael ei adnabod wrth yr enw Juan de Mervinia, yn deyrnged i ardal Meirionnydd.

Am iddo droi’n Babydd, roedd yn gwybod y byddai’n cael ei ladd pe bai’n dychwelyd adref. Ond dyna a wnaeth yn 1610, a chael ei grogi yn 33 oed.

Fe ddaeth yn sant yn 1970.