Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl i gerddwr farw ar ôl cael ei daro ar yr A494 yn Rhuthun.
Cafodd y dyn, oedd yn ei 40au, ei daro gan gerbyd yn oriau man bore heddiw wrth gerdded i gyfeiriad Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Mae teulu’r dyn yn cael eu cefnogi gan yr heddlu, sy’n awyddus i glywed gan dystion a welodd y dyn yn cerdded rhwng 1 o’r gloch ac 1.40 fore heddiw (dydd Sul, Hydref 14).
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.
Mae’r ffordd ynghau am y tro.