Mae’r heddlu’n apelio yn dilyn marwolaeth dyn 32 oed yn dilyn digwyddiad ym marina Penarth nos Wener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i’r dyn a dynes 35 oed fynd i drafferthion, ac fe gafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu’r dyn farw’n ddiweddarach.

Mae’r ddynes wedi cael mynd adref erbyn hyn.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus, ac maen nhw’n apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.