Mae ymgyrchwyr sy’n galw am ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhowys wedi galw am gynlluniau pendant ar gyfer agor yr ysgol.

Mae ‘Gwir Ddwyieithrwydd’, criw o rieni, neiniau a theidiau yng ngogledd y sir, yn galw ar Gyngor Sir Powys i gyhoeddi amserlen.

Cyn cyflwyno cwestiwn cyhoeddus i gyfarfod llawn y Cyngor ar Hydref 18, dywedodd yr ymgyrchydd Buddug Bates mewn datganiad, “Mae’r Cyngor wedi addo sefydlu ysgol uwchradd newydd yng ngogledd Powys a fydd yn sicrhau fod pob plentyn yn gwbl ddwyieithog.

“Rydym yn disgwyl gweld cynnydd ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth eto.

“Mae plant gogledd Powys yn haeddu gwell ac mae’r Cyngor yn llusgo ei draed o’i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill o ran addysg cyfrwng Cymraeg.”

Galw am amlinelliad ‘clir a diamwys’

Wrth ategu’r alwad, dywedodd Ceri McEvoy ar ran RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg), “Daeth yr amser i Gyngor Powys amlinellu, yn glir a diamwys, beth fydd amserlen agor yr ysgol newydd arfaethedig.

“Does dim modd cyfiawnhau unrhyw oedi pellach. Mae sefydlu’r ysgol yn elfen allweddol o ddatblygiad addysg Gymraeg yn y sir, felly pwyswn arnynt i ddatgan ar fyrder beth fydd camau nesaf y broses.”

Gobaith yr ymgyrchwyr yw gweld y Cyngor yn cyhoeddi cynllun gweithredu er mwyn ateb gofynion y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.