Wrth i lifogydd yn sgil Storm Callum effeithio ar bob rhan o Gymru heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 13), mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi bod nifer o ffyrdd ynghau.

Fe fu glaw trwm a pharhaus dros nos, gyda lefelau afonydd wedi codi’n sylweddol.

Mae llifogydd sylweddol yn ardaloedd Llanymddyfri, Llandeilo a Chapel Dewi, a hefyd yn ardal Cei Caerfyrddin a Phensarn.

Y ffyrdd sydd ynghau ar hyn o bryd yw:

  • Y Cei, Caerfyrddin
  • Ffordd y Cwrwg, Caerfyrddin, rhwng cylchfan Lon Morfa a chylchfan Heol Las
  • A40 ger yr Old Smithy rhwng Llanwrda a Llanymddyfri
  • A40 ger yr Old Tannary yn Rhosmaen
  • A4069 ger yr hen hufenfa yn Llangadog
  • A4069 ger Pont Lynjack, Llanymddyfri
  • B4300 yng Ngelli Aur ar y ffordd o Gaerfyrddin i Landeilo
  • Ffordd gyswllt rhwng yr A40 a’r B4300 yn Aberglasne
  • Cyffordd y B4300 ym Maesybont
  • A482 Pumsaint ger Cloddfeydd Dolau Cothi (Llanwrda i Lambed)
  • Ffordd Bethlehem i Langadog
  • A485 Alltwalis
  • A40 rhwng Llandeilo a Llanymddyfri
  • A4069 yn Llangadog
  • U2043 Waunbricks, Sanclêr
  • Abergwili – mae’r llifddorau wedi eu cau
  • A40 Pontargothi