Mae nifer o ffyrdd ynghau yng Ngheredigion oherwydd llifogydd sydd wedi’u hachosi gan Storm Callum.

Fe fu glaw trwm a pharhaus dros nos, gyda lefelau afonydd wedi codi’n sylweddol.

Dywed y cyngor fod amodau gyrru yn y sir yn beryglus o ganlyniad i ddŵr ar lawer o ffyrdd, ac mae rhybudd i yrwyr fod yn ofalus gydol y dydd.

Y ffyrdd sydd wedi’u cau hyd yn hyn yw:

  • A44 Gelli Angharad i Lanbadarn
  • B4343 Cellan
  • B4437 Talsarn
  • B4476 Abercerdin
  • A485 Betws Bledrws
  • Pont Llechryd
  • Pont Llandysul