Mae rhybudd Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd yn dal mewn grym wrth i lefel afonydd y de godi yn sgil Storm Callum.

Mae’r storm eisoes wedi achosi anawsterau drwy’r de a’r gorllewin, wrth i fwy na 160mm (5 modfedd) o law gwympo ym Mannau Brycheiniog dros y dyddiau diwethaf.

Ac mae rhybudd y gallai rhagor o law gwympo yn ystod y dydd, yn enwedig yn ardaloedd Aberdulais yng Nghwm Nedd a Phenrhiwceiber yng Nghwm Cynon.

Mae 28 rhybudd am lifogydd mewn grym o hyd, gyda 39 o negeseuon am fod yn wyliadwrus, wrth i’r awdurdodau barhau i fonitro’r sefyllfa.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gwirio amddiffynfeydd ac yn clirio’r llanast sydd wedi’i achosi eisoes.

Neges ‘bwysig’ Cyfoeth Naturiol Cymru

Wrth rybuddio y gallai rhagor o law gwympo ddydd Sadwrn, dywedodd Sioned Warrell o gorff Cyfoeth Naturiol Cymru, “Rydym wedi gweld cyfanswm sylweddol o law dros y 24 awr diwethaf, ac fe fydd hyn yn parhau heddiw. Rydym eisoes wedi gweld effaith hyn ar y ffyrdd, ac fe allen ni weld rhagor o lifogydd wrth i’r glaw lifo i lawr o’r mynyddoedd.

“Mae sicrhau eich bod yn gwybod beth yw’r sefyllfa lle’r ydych chi’n byw yn bwysig iawn. Gallwch wirio ein gwefan neu ffonio’r Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 am unrhyw Rybuddion Llifogydd allai fod yn eu lle, a chadw llygad ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol am fanylion unrhyw anghyfleustra yn eich ardal chi.

“Mae ein timau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r risg i gymunedau ond os oes yna lifogydd, rydym am sicrhau bod pobol yn gwneud popeth fedran nhw i’w cadw eu hunain yn ddiogel.”

Mae rhybudd i bobol neilltuo mwy o amser nag arfer i deithio, a dylid osgoi cerdded neu yrru drwy lifogydd neu fynd yn agos at afonydd sy’n llifo’n gyflym ac ardaloedd arfordirol.

Mae diweddariadau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud, a thrwy fynd i’r ddolen Twitter @natreswales.