Llandeilo
Mae cyfreithiwr a chrwner o orllewin Cymru wedi ei atal dros dro wrth i ymchwiliad fynd rhagddo.

Mae swyddogion o’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi gweithredu er mwyn atal y cwmni John Owen Solicitors yn Llandeilo rhag gweithredu.

Cadarnhaodd John Owen ddoe ei fod wedi ymddiswyddo o fod yn grwner Sir Gaerfyrddin ac y byddai ei ddirprwy grwner, Pauline Mainwaring, yn gwneud y gwaith.

Roedd Golwg360 wedi dechrau holi am yr achos ddydd Gwener diwetha’. Ar y pryd, fe ddywedodd yr Awdurdod na allen nhw gadarnhau eu bod yn ymchwilio i achos John Owen.

Bellach, fe ddaeth yn glir fod y swyddfa wedi ei chau ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Chwech yn cael eu diswyddo

Mae John Owen, 76, wedi bod yn gyfreithiwr am dros 50 mlynedd ac roedd wedi bod yn Grwner yn Sir Gaerfyrddin ers dros 25 mlynedd. Mae cyfres o gwestau oedd i fod yr wythnos hon wedi eu canslo.

Deallir fod y chwe pherson sy’n gweithio yn y swyddfa, gan gynnwys y Dirprwy Grwner Pauline Mainwaring, wedi cael rhybuddion diswyddo’r wythnos diwethaf.

Mae’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn cadw llygad ar dros 120,000 o gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr gan ymchwilio i achosion o gamymddwyn, gan gynnwys amryfusedd ariannol. Cafodd ei sefydlu yn 2007 er mwyn sicrhau fod cyfreithwyr yn cadw at safonau uchel.

‘Wedi ymyrryd’

“Fe allwn ni gadarnhau ein bod ni wedi ymyrryd yn achos cwmni John Owen Solicitors, Llandeilo,” meddai llefarydd ar ran yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

“Mae tystysgrif ymarfer Mr Owen wedi ei hatal ar unwaith. Mae ymchwiliad yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn parhau.”