Mae cyfle i dri dysgwr o Batagonia dderbyn £2,000 er mwyn teithio i Gymru lle byddan nhw’n astudio’r Gymraeg.

Y nod yw rhoi’r cyfle i dri pherson o’r Wladfa dreulio cyfnod o fis yng Nghymru yn dilyn cwrs Cymraeg naill ai ym Mhrifysgol Aberystwyth neu Brifysgol Caerdydd.

Ar ôl dilyn y cwrs wedyn, bydd disgwyl i’r tri fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Wladfa, gan gyfrannu at y bywyd Cymraeg yno trwy gyfrwng gweithgareddau neu ddosbarthiadau.

Mae’r arian yn cael ei ddarparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i drefnu cyrsiau dysgu Cymraeg i oedolion.

‘Cadw’r Gymraeg yn fyw’

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobol o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y tair ysgoloriaeth yw Hydref 26.