Izaak Stevens
Bydd cwest yn cael ei gynnal heddiw i farwolaeth mam 36 oed yn Nhrawsfynydd.

Y gred yw bod Melanie Stevens wedi lladd ei phlant ifanc, Philip, pump oed, ac Izaak, dwy oed, cyn iddi ei lladd ei hun.

Daethpwyd o hyd i’w cyrff yn y pentref yng Ngwynedd tua 8pm ar 19 Rhagfyr y llynedd ar ôl i gymdogion gysylltu â’r heddlu.

Dangosodd prawf post-mortem fod y ddau fachgen wedi eu mygu. Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd nad oedden nhw’n ystyried marwolaeth y fam yn un amheus.

Roedd Melanie Stevens, mam i bump ac wedi ysgaru, wedi byw yn y tŷ yn Stryd y Capel ers tua dwy flynedd ar ôl symud yno o Flaenau Ffestiniog.

Dywedodd Nicholas Smith, tad Izaak a chynbartner Melanie Stevens, ar y pryd eu bod nhw’n “ddau hogyn hyfryd, yn caru trenau, peli pêl-droed, ceir, pyllau dŵr a chael eu cosi”.

“Roedd Izaak a Pip yn amsugno’r holl gariad yr oedden nhw’n ei gael gan bawb oedd yn eu nabod nhw ac yn ei roi yn ôl ganwaith,” meddai.

“Fyddan nhw byth yn colli eu llawenydd diniwed at ryfeddodau’r byd o’u cwmpas nhw. Fe fyddan nhw’n ddau blentyn bach hyfryd am byth.”

Fe fydd y cwest yn cael eil ail-agor gan y crwner Dewi Pritchard Jones yng Nghaernarfon yn siambr y cyngor am 2am heddiw.