Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau mai corff Richard Andrews gafodd ei ddarganfod ar lannau afon Nedd ger Sgiwen.

Roedd y gŵr o ardal Melin, Castell-nedd, a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Monkey’, wedi bod ar goll ers mis Ionawr.

Canfuwyd ei gorff ar lannau’r afon ger Sgiwen bron i bythefnos yn ôl (dydd Sadwrn, Medi 29).

Yn ôl yr heddlu, maen nhw eisoes wedi cysylltu â’i deulu ac maen nhw ar hyn o bryd yn derbyn cymorth arbenigol.

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau eto os oedd marwolaeth Richard Andrews yn un amheus ai peidio.