Bydd cynhyrchydd teledu llawrydd fu’n gweithio ar raglenni Fferm Ffactor, Ar y Dibyn a Deuawdau Rhys Meirion, yn dod yn aelod o dîm comisiynu S4C yn y flwyddyn newydd.

Yn ôl y Sianel Gymraeg bydd Non Griffith “yn gweithio’n agos gyda chomisiynwyr adloniant a ffeithiol S4C yn ogystal â gweithio ar gyd-gynyrchiadau a datblygu cysylltiadau rhyngwladol y sianel”.

“Cynnwys safonol”

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i gychwyn ar fy swydd newydd mewn cyfnod arloesol ym maes teledu,” meddai Non Griffith.

“Mae’n sicr yn amser o newid a dwi’n edrych ymlaen at ddatblygu cynnwys safonol ar amryw o blatfformau amrywiol. Bydd hi’n fraint cael gweithio i S4C.”