Mae darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr lenyddol am yr astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu’r dramodydd, Saunders Lewis.

Dr Rhianedd Jewell, sy’n darlithio yn Adran y Gymraeg yn y coleg ger y lli, sydd wedi ennill Gwobr Syr Ellis Griffith eleni.

Mae wedi derbyn y wobr am ei hastudiaeth, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere, sy’n cael ei disgrifio gan un o’r beirniaid yn “gyfrol gyfoethog”.

“Hon yw’r astudiaeth gyflawn gyntaf o waith cyfieithu Saunders Lewis, ac mae’n taflu goleuni newydd ar ei ddatblygiad fel llenor ac ar ei ddyled i’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere,” meddai’r Athro Dafydd Johnston.

“Mae cyfieithu i’r theatr yn grefft neilltuol, ac felly mae’r gyfrol hefyd yn gyfraniad pwysig i faes astudiaethau cyfieithu yn y Gymraeg.”

“Braint arbennig”

Daw Rhianedd Jewell yn wreiddiol o Ystrad Mynach ger Caerffili.

Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn cwblhau graddau uwchraddedig ym maes Llenyddiaeth Eidaleg.

Yn dilyn cyfnod yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, mae bellach yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’n fraint arbennig ac annisgwyl derbyn Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith am fy nghyfrol gyntaf,” meddai Rhianedd Jewell.

“Mae’r prosiect hwn yn golygu llawer imi, ac felly rwy’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Cymru am roi cydnabyddiaeth i’w werth ac am roi sylw arbennig i faes astudiaethau cyfieithu”.