Mae elusen amgylcheddol yn golygu defnyddio rhannau o ogledd Ceredigion a Phowys fel ardal arbrofi ar gyfer “ailgysylltu pobol gyda bywyd gwyllt”.

Bydd rhannau o Fae Ceredigion, Pumlumon a Dyffryn Dyfi yn rhan o’r prosiect ‘O’r Mynydd i’r Môr’, sydd â’r bwriad o ddad-ddofi cefn gwlad drwy ddulliau a all cynnwys ailgyflwyno anifeiliaid cynhenid i fyd natur.

Rewilding Britain, a gafodd ei sefydlu yn 2015, sy’n bennaf gyfrifol am y prosiect, ac maen nhw’n awyddus i dalu cyflog gwerth £40,000-£45,000 i gyfarwyddwr sy’n fodlon arwain y gwaith.

Dod â phobol yn nes at natur

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr elusen a nifer o sefydliadau amgylcheddol sy’n cynnwys Coed Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Bydd 10,000 hectar o dir, a 28,400 hectar o fôr, yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ardal arbrofi.

Yn ôl Rewilding Britain, y nod yw creu “eco systemau ffyniannus”, a fydd yn eu tro yn “cefnogi economi cadarn sy’n seiliedig ar natur yn ogystal â dyfodol cynaliadwy ar gyfer y gymuned leol.”

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd llwyddiant y prosiect yn golygu y bydd modd defnyddio’r un dulliau a phrosesau mewn ardaloedd eraill o wledydd Prydain yn y dyfodol.

Cyfarwyddwr y prosiect

Bydd y swydd Cyfarwyddwr y Prosiect wedi’i lleoli yn yr ardal arbrofi, ac mae disgwyl iddo ef neu hi gydweithio’n agos gyda’r gymuned a grwpiau lleol.

Mae Rewilding Britain yn pwysleisio y bydd unrhyw ymgeisydd nad yw’n rhugl yn y Gymraeg yn derbyn hyfforddiant.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am swydd Cyfarwyddwr yw dydd Sul, Hydref 28.