Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gobeithio agor ei phedwaredd ysgol gynradd Gymraeg erbyn mis Medi 2020.

Daw hyn wrth i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) yr awdurdod lleol gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn nodi sut fydd addysg Gymraeg yn y ddinas yn cael ei datblygu, a’r nod yw agor yw ysgol gynradd newydd a fydd yn darparu addysg Gymraeg.

Mae’r cyngor yn dweud y bydd agor y bedwaredd ysgol yn cynyddu’r lleoedd mewn addysg gynradd Gymraeg ledled y ddinas o 50%. Ond dyw lleoliad yr ysgol newydd ddim wedi’i gadarnhau eto.

“Rydym wedi dangos ymrwymiad clir i’r Gymraeg fel Cyngor ac rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru yn swyddogol,” meddai Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd.

“Mae’r cynllun yn cynnwys cynnig i agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd, ac rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r ysgol hon drwy arian cyfalaf – mae’n hwb go iawn i’r ddinas.”

Dywed yr aelod o’r Cabinet sy’n dal portffolio Addysg, Gail Giles, fod y cynllun yn “gam cadarnhaol i addysg” yn y ddinas, ac yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.