Y cyhoedd fydd yn penderfynu pa un ferch ifanc fydd yn teithio o Gymru i Belarws ar gyfer ffeinal cystadleuaeth Eurovison Ifanc y mis nesaf yn erbyn cynrychiolwyr 19 o wledydd eraill.

Y chwe seren ifanc fydd yn perfformio’n fyw o Llandudno heno fydd Ella, Lily a Lauren o dan arweiniad Connie Fisher; Misha a Manw yn cael eu mentora gan Tara Bethan; a Gracie-Jayne gyda chefnogaeth Stifyn Parri.

Yn hanner cyntaf y noson fawr cawn gyfle i weld y merched yn perfformio caneuon o’u dewis nhw o flaen panel o feirniad o Landudno, Aberystwyth, Caerfyrddin, Caerdydd a Llundain.

Yn yr ail hanner, fe fydd y tri perfformiad sy’n ennill pleidlais y panel yn mynd ymlaen i ganu ‘Hi yw’r Berta’– ble’r cyhoedd yn unig fydd yn dewis yr ennillydd.

“Byddwch yn chi eich hunain” yw neges y mentoriaid

Connie Fisher – “Pan o’n i’n mynd am glyweliadau yn y West End, roedd un person wedi gofyn i mi ddweud jôc. Ar ôl siarad gyda fy athrawon, dysgais taw personoliaeth yw popeth, gwybod pwy wyt ti, ac i fod yn barod am unrhyw beth. Gwisga fel ti, bydd yn barod am unrhyw beth a chofia bod unrhyw un yn gallu canu ond personoliaeth yw popeth.”

Stifyn Parri – “Byddwch y fersiwn gorau ohonoch chi eich hunain.”

Tara Bethan – “Perfformiwch fel chi, anghofiwch am bob dim da chi wedi bod yn poeni amdano fo ac ewch allan yna a joio!”