Mae’r arwydd adnabyddus sydd ar gopa mynydd Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog ar werth.

Mae wedi bod ar gopa’r mynydd uchaf yn ne Cymru ers tua phymtheng mlynedd, ac mae’n enwog am gael ei gynnwys mewn lluniau dringwyr sy’n cwblhau’r daith i’r top.

Bydd yr arwydd yn cael ei werthu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddiwedd yr wythnos nesaf (Hydref 20), a hynny’n rhan o’u hapêl am arian ar gyfer y gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud ar lwybrau Pen-y-Fan.

Cafodd yr apêl ei lansio ym mis Chwefror, ac mae rhan o’r gwaith eisoes wedi’i gwblhau.

Roedd y gwaith hwnnw’n cynnwys trwsio 200m o lwybr Porth ar Daf, ond mae dal 400m o’r llwybr honno a rhannau o lwybrau eraill ar ôl i’w cwblhau.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r prosiect hwn yn “hanfodol” er mwyn amddiffyn y tirlun a sicrhau bod y llwybrau’n ddiogel ar gyfer y miloedd o gerddwyr sy’n dringo’r mynydd bob blwyddyn.

Mae dros 350,000 o ddringwyr yn dod i Ben-y-Fan yn flynyddol, medden nhw, gyda ffigyrau wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae’n debyg ei bod wedi cymryd tair awr i weithwyr osod arwydd newydd yn lle’r hen un, gan fod yna gymaint o ddringwyr eisiau tynnu llun o’i flaen.