Fe gafodd yr heddlu arfog eu galw i Aberaeron neithiwr (nis Lun, Hydref 8), yn dilyn adroddiadau bod Steve Baxter, sy’n cael ei amau o lofruddio dyn ym Mhentywyn, wedi cael ei weld yno.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod presenoldeb yr heddlu yn y dref yng Ngheredigion neithiwr yn gysylltiedig â’r ymchwiliad i lofruddiaeth Simon Clark dros wythnos yn ôl (Medi 27).

Chafodd neb eu harestio.  

Y cefndir

Fe gafodd Simon Clark ei ddarganfod yn farw ym Maes Carafanau Grove ym Mhentywyn.

Hyd yn hyn, mae pedwar person wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth, gydag un dyn 40 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, a thri arall wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r heddlu’n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â Steve Baxter, 52, sy’n cael ei ddisgrifio ganddyn nhw’n “unigolyn peryglus”.

Mae’n cael ei adnabod wrth yr enwau Steve Rowley, Wayne Tidy neu William Tidy, ac mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd yng ngorllewin a de Cymru, yn ogystal â de-orllewin a gogledd Lloegr.

Maen nhw hefyd yn dweud ei fod yn 5’5’’ o daldra, ac mae ganddo datŵau ar ei freichiau, sef yr enw ‘Chez’ a siâp cylchoedd ar ei fraich chwith, a neidr ar ei fraich dde.

Mae’r elusen, Taclo’r Taclau, wedi addo gwobr ariannol o hyd at £5,000 i unrhyw un sy’n cysylltu â nhw gyda gwybodaeth a all arwain at ei arestio.