Mae arweinydd newydd Plaid Cymru yn dweud y bydd grŵp ei blaid yn San Steffan yn fodlon cefnogi Aelodau Seneddol yr SNP wrth iddyn nhw alw am ail refferendwm tros Brexit.

Bu Adam Price yn annerch cynhadledd yr SNP yn Glasgow heddiw (dydd Llun, Hydref 8).

Dywed fod y dyfodol a ddaw gyda Brexit bellach yn edrych fel petai’n cael ei gynnal gan “spam a phastai croen tatws”, yn hytrach na “gwlad y llaeth a’r mêl” sy’n cael ei haddo gan rai.

Mae hefyd yn cyhuddo’r “sefydliad Prydeinig” o “raffu celwyddau”, yn union fel y gwnaethon nhw adeg y rhyfel yn Irac a’r misoedd yn arwain at y refferendwm tros Brexit.

“Mae’r allwedd gennym ni”

“Mae’r hen Brydain yn marw,” meddai Adam Price. “Gadewch iddi farw.

“Nid ein cynllun ni yw rhannu’r ynys, ond i’w hail-wneud yn gartref ar gyfer tair cenedl  rydd, ac nid yn balas nac yn eiddo i un.

“Mae hanes yn ein dwylo, y dyfodol o’n blaenau, ac mae’r allwedd gennym ni.”