Mae elusen yn cynnig hyd at £5,000 am wybodaeth a all arwain at arestio dyn sy’n cael ei amau o lofruddiaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Simon Clark ym Mharc Carafanau Grove yn Pentywyn dros wythnos yn ôl (dydd Iau, Medi 27).

Ers y digwyddiad, mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn o’r enw Steve Baxter, 52, sy’n cael ei ddisgrifio fel “unigolyn peryglus”.

Mae Taclo’r Taclau’n cynnig gwobr ariannol sylweddol i unrhyw un sy’n cysylltu â’r heddlu gyda gwybodaeth bwysig ynglŷn â’i leoliad.

‘Cysylltwch’

“Mae pedwar o bobol wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Simon [Clark], ond mae Steve Baxter yn dal heb gael ei holi mewn cysylltiad â’r drosedd,” meddai Ella Rabaiotti, rheolwr Taclo’r Taclau yng Nghymru.

“Mae’n unigolyn peryglus, ac rydym yn annog pobol i gysylltu ag unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw ynglŷn â ble y mae.”

Mae modd cysylltu â Taclo’r Taclau am ddim ar y rhif, 0800 555 111.

Y chwilio’n parhau

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae Steve Baxter hefyd yn cael ei adnabod fel Steve Rowley, Wayne Tidy neu William Tidy, ac mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd yng ngorllewin a de Cymru, yn ogystal â de-orllewin a gogledd Lloegr.

Mae’n 5’5’’ o daldra, ac mae ganddo datŵ ar ei freichiau, gyda’r enw ‘Chez’ a siâp cylchoedd ar ei fraich chwith, a neidr ar ei fraich dde.

Mae pedwar o bobol wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli mewn cysylltiad â’r farwolaeth ym Mhentywyn.

Mae un dyn 40 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, tra bo tri arall wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Fe fydd y pedwar yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe yfory (Hydref 9).