Mae disgwyl i nifer fawr o bobl fynychu angladd bachgen 14 oed a fu farw yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad yn yr ysgol lle’r oedd yn ddisgybl yn Llanelli fis diwethaf.

Cafodd cwest i farwolaeth Bradley John, a oedd yn dod o Rydaman, ei agor a’i ohirio.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig Gyfun Sant John Lloyd, Llanelli. Dywedodd ei dad fod ei fab wedi cael ei fwlio yn yr ysgol.

Heddiw fe fydd dathliad o fywyd Bradley John yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Aberafan am hanner dydd gyda gwasanaeth wedyn yn Amlosgfa Margam am 2.30yp cyn dychwelyd am luniaeth wedyn i Westy’r Aberafan.

Bydd nifer o bobl o’r byd marchogaeth yn ymuno yn y daith o’r gwesty i’r amlosgfa i hebrwng Bradley John ar ei daith olaf tu ôl i hers yn cael ei dynnu gan geffylau.

Mae disgwyl i gwest gael ei gynnal ar 30 Tachwedd.