Lai nag wythnos cyn i gorff Trafnidiaeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb am reilffyrdd Cymru a’r Gororau, mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates wedi cyhoeddi cynlluniau gwerth £5bn i weddnewid gwasanaethau dros gyfnod o 15 mlynedd.

Fe fydd rhai o’r cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith, gan gynnwys gwefan newydd, brandio newydd a mwy o wasanaethau Cymraeg.

Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu cyflwyno maes o law, gan gynnwys gwario £194m ar adnewyddu gorsafoedd a’u glanhau’n drylwyr o fis Rhagfyr ymlaen.

Dywedodd Ken Skates: “Nid prosiect trafnidiaeth traddodiadol mo’n cynlluniau ni – nhw fydd y gwreichionyn fydd yn tanio adfywiad economaidd ehangach.

“Rhaid iddyn nhw helpu unigolion, busnesau a chymunedau y mae angen system trafnidiaeth integredig a dibynadwy arnynt i’w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, i helpu eu busnesau i ehangu ac i ddenu buddsoddiad newydd i’w trefi.

“Mae prosiect y Metro yn golygu mwy na delio â phroblemau teithio heddiw.  Rhaid iddo greu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol – nid o safbwynt trafnidiaeth yn unig, ond o ran effaith seilwaith y Metro ar y posibiliadau economaidd i bobl ledled y De.”

Manteision eraill 

Mae manteision eraill y cytundeb newydd ar gyfer rheilffyrdd Cymru a’r Gororau’n cynnwys:

  • recriwtio 600 aelod o staff ychwanegol a 450 o brentisiaid (30 bob blwyddyn)
  • buddsoddi £1.9bn mewn gwella profiad teithwyr, gan gynnwys buddsoddi £800m mewn trenau, gan wella capasiti gwasanaethau o 65%
  • Erbyn 2023, bydd 95% o deithiau ar un o’r 148 o drenau newydd – a’u hanner wedi’u hadeiladu yng Nghymru
  • Metro Canolog hollol drydanol o ffynonellau adnewyddadwy – a hanner y ffynonellau hynny yng Nghymru
  • Erbyn 2023, 285 o wasanaethau ychwanegol bob dydd ledled Cymru (cynnydd o 29%), gan gynnwys gwella’r gwasanaeth yng Nglyn Ebwy a Wrecsam
  • O Ragfyr 2022, cynnydd o 28% yn nifer y milltiroedd mae trenau’n teithio ar ddydd Sul

Bydd tocynnau am bris gostyngedig ar gael yn y gogledd ac oddeutu hanner gorsafoedd y Cymoedd ar adegau nad ydyn nhw’n oriau brig.

Wrth annerch y gynhadledd ‘Y Metro a Fi’ heddiw ar gyfer arweinwyr byd busnes (Llun, 8 Hydref), cafodd y cynrychiolwyr wybod y diweddaraf gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Dywedodd, “Mae’n cynlluniau’n fwy na phrosiect trafnidiaeth traddodiadol. Bydd y Metro’n gwireddu nifer o’n hamcanion polisi trwy greu rhwydwaith fydd yn gwasanaethu cymunedau, fydd yn hygyrch i bawb ac yn gweithio saith niwrnod yr wythnos.

“Bydd yn cynyddu mudoledd cymdeithasol ac yn cynyddu mynediad, gan gysylltu pobl a chymunedau â chyfleoedd gwaith a chyfleusterau addysg, iechyd a hamdden.”