Mae dynes o Abertawe’n bwriadu teithio 400km mewn caiac o Fôn i Fae Abertawe i godi arian i brynu cadair olwyn i’w ffrind sydd â chyflwr niwrolegol prin.

Wrth sefydlu tudalen codi arian ar wefan Go Fund Me, dywed Leigh Alexandra Woolford fod gan ei ffrind Tina, sy’n 33 oed, gyflwr Friedrich’s Ataxia er pan oedd hi’n 17 oed.

Mae’r cyflwr niwrolegol prin yn achosi niwed i’r system nerfol a phroblemau symudedd sy’n gwaethygu dros gyfnod o amser.

Cefndir

Dywed bod ei ffrind “annibynnol, positif ac ysbrydoledig” wedi bod mewn cadair olwyn er pan oedd hi’n 21 oed, a bod dirfawr angen adnewyddu’r un sydd ganddi ar hyn o bryd.

Yn 2019, bydd Tina hithau’n seiclo mewn cadair seiclo o Fangor i Gaerdydd ac yn ôl Leigh, mae her ei ffrind wedi ei hysbrydoli hithau.

Ar ei thudalen Go Fund Me, dywed Leigh, “Dw i’n anelu i orffen yr her mewn dim mwy na phythefnos (os galla i ei chwblhau mewn llai o amser, bydda i’n hapus iawn), gyda gwerth 30-40km o badlo bob dydd.

“Dw i wedi cyffroi ond yn llawn ofn… ond 100% yn benderfynol o gwblhau hyn a sicrhau bod gan Tina yr olwynion gorau sydd ar gael iddi.”

Mae Leigh yn anelu i godi £5,000 gan egluro y bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei roi i fad achub yr RNLI, gan y bydd hi’n teithio heibio 13 o orsafoedd ar ei ffordd ar hyd yr arfordir.