Mae Leanne Wood am weld Plaid Cymru yn dod yn blaid “llawer iawn fwy disgybledig”, gydag aelodau sydd yn “fwy parod i ddilyn rheolau”.

Daw sylwadau’r cyn-arweinydd ychydig dros wythnos wedi iddi ildio’r awenau i Adam Price, a’n sgil cyfres o drafferthion disgyblu o fewn y blaid.

Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw, cafodd yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, ei wahardd o’r blaid am 18 mis, a chafodd cangen gyfan ei wahardd yn Llanelli.

Mae’r cyn-aelodau yma wedi amddiffyn eu gweithredoedd gan erfyn am ‘ryddid barn’. Ond mae Leanne Wood yn cyfleu safiad tra gwahanol, a’n eu cyhuddo o “fwlio”.

“Dw i’n credu ein bod wedi gweld ymddygiad gwael, ac ymddygiad  bwlio gan sawl un o’n haelodau,” meddai wrth golwg360. “Ac mae’r [blaid] wedi delio â hynny.

“Gallwn naill ai ganiatáu i bobol ymddwyn yn wael, a thorri’r rheolau, a cham-drin pobol, neu gallwn ddelio â hynny. A dw i’n credu bod y [blaid] wedi delio â rhywfaint ohono – ond nid â’r cwbl lot.

“A hoffwn i weld newid diwylliant. Hoffwn weld Plaid Cymru yn dod yn llawer iawn fwy disgybledig.

“A hoffwn i’r aelodau fod yn fwy parod i ddilyn rheolau sydd wedi’u gosod gan ein hetholaeth. A pan maen nhw’n torri’r rheolau yna, mae yna oblygiadau i hynny.”

Edrych ymlaen ac yn ôl

Wrth edrych at ddyfodol y blaid ag Adam Price wrth y llyw mae Leanne Wood yn pwysleisio’r angen i gadw ffocws ar y Cymoedd.

“Mae’n rhaid i ni ennill yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol,” meddai. “Oherwydd os fyddwn ni ddim yn gweld cynnydd yn yr ardaloedd yna, fyddwn ni methu a dod yn brif blaid yn y Cynulliad.

“Mae’n rhaid cael ffocws mewn etholiadau fel fy rhai i, a dw i’n barod i chwarae’r rôl sydd gen i yn awr . . . a chyfrannu at ein llwyddiant yn y dyfodol yn y maes yma.”

Ac wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod yn arweinydd, mae’n dweud bod ffactorau allanol wedi “rhwystro” Plaid Cymru a’u hatal rhag gwireddu’u hamcanion.

“Roedd yna ffactorau megis Brexit a newidiadau gwleidyddol ar lefel bydol. Ac mae gwleidyddiaeth wedi gogwyddo i’r dde ag etholiad [yr Arlywydd] Donald Trump,” meddai.

“Mae newidiadau wedi bod yn y Blaid Lafur hefyd. Mae pob un o’r pethau yna y tu allan i’n rheolaeth, ond maen nhw’n cael effaith ar ein gallu i lwyddo.

“Dw i’n gobeithio bod Adam yn medru delio â’r ffactorau allanol yna, a’n medru cyflawni’r llwyddiant rydym oll am ei weld.”

Materion niche?

Yn ystod y gystadleuaeth arweinyddol, cafodd Leanne Wood ei beirniadu gan yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, am roi gormod o bwyslais ar faterion niche – neu, lleiafrifol.

Ond wrth siarad yn y nghynhadledd Mae Leanne Wood yn nodi bod angen sefyll dros faterion lleiafrifoedd ethnig

Ond nid ateb ymylol yw’r materion yma, ym marn Leanne Wood, a rhaid i Blaid Cymru fwrw ati a chreu “polisïau ar gyfer pawb”.

“Rhaid cynnwys pawb yn y Gymru yr hoffwn i weld,” meddai. “Does dim pwynt i ni anelu at ddatganoli pellach ac annibyniaeth os ydyn ond yn mynd i greu sustem o wahaniaethu fel yr un sydd eisoes yn bodoli.

“Yn yr oes sydd ohoni, mae lleiafrifoedd a menywod – sydd mewn gwirionedd yn fwyafrif – dan warchae. Mae siaradwyr Cymraeg dan warchae. A gallwn naill ai delio â nhw i gyd fel niche issues, neu gallwn ddweud bod ymosodiad ar un, yn ymosodiad ar bob un ohonom.”

Bydd Leanne Wood yn annerch cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Theatr Mwldan, Aberteifi heddiw. (Hydref 6).