“Newid gêr” nid newid ideolegol fydd Plaid Cymru dan arweiniad Adam Price.

Dyna ddywedodd yr Aelod Cynulliad ei hun, yn dilyn ei anerchiad i gynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberteifi, dydd Gwener (Medi 5).

Mae’r arweinydd yn dweud ei fod ef a Leanne Wood yn dod o’r un “traddodiad gwleidyddol”, gyda’r ddau yn sosialwyr, a’r ddau yn anelu at droi’r blaid yn un “gynhwysol”.

Ond mae’n mynnu bydd “pwyslais” y blaid yn wahanol gydag ef wrth y llyw, ac mi fyddan nhw’n “cyflymu” yn eu hymdrech at wireddu annibyniaeth i Gymru.

“Dw i’n cynrychioli’r awydd i symud ar frys,” meddai Adam Price wrth golwg360.

“Lle efallai bod yna ddadl: Ydy e’n realistig i ni geisio bwrw mlaen [ag annibyniaeth] mor fuan ag sy’n bosib? Mi fyddwn i’n dweud bod angen meddylfryd o frys radicalaidd. Newid gêr. Cyflymu.

“Rydym wedi gweld cynnydd araf a sefydlog dros gyfnod Leanne.

“Ond pe baem ni jest yn cario mlaen ar y raddfa yna, byddai’n cymryd hanner cenhedlaeth i ni gyrraedd y man lle rydym ni’n Llywodraethu. Felly, ie, cyflymu a symud lan gêr.”

Yr araith

Wrth annerch y gynhadledd, ymosododd Adam Price ar bolisïau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r Gymraeg, a safiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros Brexit.

Cyhoeddodd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i fecanwaith ymgyrchu’r blaid, a phwysleisiodd unwaith eto ei nod i wireddu annibyniaeth i Gymru.

“Does dim ateb i’r problemau rydym ni’n eu hwynebu heb annibyniaeth,” meddai. “Rydym ond yn medru datrys ein problemau, trwy eu perchnogi.”