Mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gamwario arian cyhoeddus dro ar ôl tro.

Lleisiodd Ysgrifennydd Economi’r wrthblaid, Russel George, ei bryder yn dilyn adroddiadau bod dros £5 miliwn o arian y trethdalwr wedi ei golli wrth geisio cefnogi cwmni dur Kancoat yn Abertawe.

Derbyniodd Kankoat £3.4 miliwn gan y Llywodraeth cyn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Medi 2014, ac fe gawson nhw osgoi talu £2 filiwn ychwanegol wrth roi’r gorau i dalu ffioedd ar eu hadeilad yn gynnar.

Patrwm

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei feirniadu’n hallt gan Swyddfa Archwilio Cymru am ddosbarthu cytundebau coed yn 2017 heb ei gynnig ar y farchnad agored.

Dangosodd adroddiad bod y trethdalwr wedi colli swm o £1 miliwn o ganlyniad i’r cytundebau hyn.

Hefyd beirniadwyd y Llywodraeth am golli £9 miliwn o arian cyhoeddus ym Mehefin 2017 ar ôl i brosiect Circuit of Wales, werth £433 miliwn, gael ei ganslo.

Yn ymateb i’r newyddion am y colledion i’r pwrs cyhoeddus yn dilyn cwymp Kancoat, dywedodd y Ceidwadwr Russel George:

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o fethiannau gan Lywodraeth Cymru i fonitro gwariant arian cyhoeddus yn ddigonol.

“O Kancoat i Circuit of Wales, i Triumph Furniture a chytundebau coed Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hi’n broblemus iawn bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chael gafael ar ei chyfrifoldebau i drethdalwyr Cymru.

“Mae’r datgeliadau hyn yn amlygu patrwm yn Llywodraeth Cymru sy’n dangos nad achos unigryw yw Kancoat.

“Yr ydym eisoes wedi gweld methiannau mawr yn sgil penderfyniadau. Mae record Llywodraeth Cymru yn llawn camgymeriadau drud.”