Mae angen i Gymru “ddechrau meddwl a gweithredu” fel petai’n annibynnol yn barod, meddai arweinydd newydd Plaid Cymru.

Mae cynhadledd y blaid yn cael ei chynnal y penwythnos hwn yn nhref Aberteifi, a thro Adam Price yw hi heddiw (dydd Gwener, Hydref 5) i annerch y gynulleidfa yn Theatr y Mwldan.

Dyma fydd y tro cyntaf iddo annerch aelodau Plaid Cymru wedi iddo gael ei ethol yn arweinydd y blaid union wythnos yn ôl.

Yn ei araith, mae disgwyl iddo gyflwyno ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys annibyniaeth i Gymru wedi Brexit.

“Gosod cwys newydd i’n gwlad”

“Does yna ddim ateb cynaliadwy i’n problemau,” meddai Adam Price ar BBC Radio Cymru y bore yma.

“Does dim ffordd i wireddu’n potensial ni yn y pen draw heblaw ein bod ni, fel bron pob gwlad arall yn y byd, yn mynd yn wlad annibynnol – yn meddu ar y cyfle felly i osod cwys newydd i’n gwlad.

“Os ydym ni’n edrych ar y Gymru sydd ohoni, yr hen Gymru, wrth gwrs, rydym wedi bod yn aros yn yr unfan yn economaidd ers cenhedlaeth a mwy…

“Dyna’r neges bositif dw i am ei rhoi gerbron pobol Cymry yw y gallen ni wneud jobyn llawer gwell na beth sydd wedi cael ei wneud gan y ddwy brif blaid Brydeinig tros flynyddoedd lawer.

“Mae digon o allu yng nghenedl y Cymry i greu seiliau mwy cadarn, mwy llewyrchus ar gyfer ein gwlad, ac mae hynny’n golygu annibyniaeth, ac mae’n golygu hyd yn oed nawr ein bod ni’n dechrau meddwl a gweithredu fel ein bod ni’n annibynnol yn barod…”