Bydd pedwar person yn ymddangos gerbron llys heddiw (dydd Llun, Hydref 5) mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Simon Clark ym Mharc Carafanau Grove yn y pentref glan môr ychydig dros wythnos yn ôl (dydd Iau, Medi 27).

Bydd Jeffrey Stephen Ward, 40, o Bentywyn yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Linda Mary Rowley, 52, o Bentywyn, Kirston Macklin, 52, o Gasnewydd, a Julie Louise Harris, 46 o Donypandy, yn wynebu cyhuddiadau o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r heddlu’n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â Steve Baxter, 52, sy’n cael ei amau o lofruddio Simon Clark.

Maen nhw’n dweud ei fod yn ddyn “peryglus”, ac fe gafodd ei weld diwethaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener ddiwethaf.