Mae’r heddlu’n ymchwilio yn dilyn cyfres o ladradau yn ardaloedd Abertawe a Phort Talbot ers y penwythnos.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae yna 14 o ladradau wedi cael eu hadrodd yn yr ardaloedd hynny ers dydd Sul (Medi 30).

Mae swyddogion yn credu bod pob lladrad yn gysylltiedig, gan fod yr eiddo wedi cael eu targedu mewn ffordd debyg i’w gilydd.

Fe fu’r rhan fwyaf o ladradau yn gynnar yn y nos, tra bo perchnogion ddim yn eu cartrefi.

Ar ôl cael mynediad, fe fu’r lladron yn archwilio’r eiddo am unrhyw arian a gemwaith drudfawr.

Apêl

“Mae’r rheiny sy’n ymgymryd â’r lladradau hyn yn hy ac yn benderfynol,” meddai’r Uwch Arolygydd, Helen Woodward.

“Mae’r lladradau diweddaraf hyn i gyd wedi digwydd mewn ardaloedd cyfoethog yn ystod y nos pan mae cymdogion  yn dal i gyflawni gwaith y dydd.

“Rydym yn hyderus bod y lladron wedi ymweld â’r ardaloedd cyn ymgymryd â’r lladradau, ac rydym yn apelio ar y cyhoedd i weithio gyda ni i’w rhwystro.”