Dyw perchennog Siop y Cymro yn Dolgellau ddim yn sicr y bydd yn medru gwerthu’r adeilad i Gymry Cymraeg.

Cafodd y siop bapurau ei agor yn yr 1960au gan dad Llion James, ac mae’r busnes wedi bod yn nwylo’r teulu ers hynny. Ond, wedi hanner canrif o weithio yno ei hun, mae’r gŵr 64 oed wedi penderfynu ymddeol a gwerthu’r cyfan.

Ac er bod rhai wedi bod yn mynegi pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol am yr hyn a ddaw wedi’r ymddeoliad, mae Llion James bellach yn derbyn nad Cymry Cymraeg fydd o reidrwydd yn prynu’r siop ganddo.

“Bydd, mi fydd hi’n anodd ffeindio rhywun fel’na,” meddai Llion James wrth golwg360 gan egluro fod y siop ar y farchnad ers wythnos bellach, am bris o £199,995.

“Dydi siopau bach ddim beth oeddan nhw, nac ydyn? Dydi Dolgellau ddim yr un lle o gwbwl, nac ydi wir… Does neb llawer yn dod i’r Sgwâr fel oedd hi.”

Hyd yma, mae’r adeilad a’r busnes yn dal i fod ar werth gan gwmni Rightmove, ac mae Llion James yn gobeithio y bydd y perchnogion newydd yn cadw’r lle fel siop.

Ymateb ar Twitter

Mewn neges ar wefan Twitter, mae’r awdures o Ddolgellau, Bethan Gwanas, wedi codi pryderon am werthiant y siop gan ddweud, “Croesi bysedd mai Cymry Cymraeg fydd yn prynu”.

Hanes y siop

Fe agorodd y siop ei drysau am y tro cyntaf yng nghanol tref Dolgellau yn 1961, gan werthu losin yn unig am flwyddyn, cyn troi’n siop bapurau ac eitemau mwy amrywiol.

Ar ei hanterth, roedd Siop y Cymro yn cyflogi pump o bobol yn llawn amser, ac yn gwerthu 3,000 o wyau Pasg bob blwyddyn. Dim ond tri o bobol sydd yn gweithio yno bellach, a wnaethon nhw ddim gwerthu’r un wy Pasg eleni.

Mae Llion James wedi penderfynu ymddeol gan ei fod yn troi’n 65 ym mis Ionawr 2019, ac oherwydd ei fod “wedi bod yna’n ddigon hir”.

“Mae’r merched yn nyrsys ac wedi hedfan y nyth ers talwm, a does yna ddim awydd cadw’r busnes yn y teulu,” meddai wedyn.