Mae £119m wedi cael ei glustnodi i ddatblygu gwaith ar Metro De Cymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar y prosiect, a fydd yn darparu “gwasanaeth cyflymach a mwy rheolaidd” i orsafoedd blaenau’r cymoedd, medden nhw.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dyblu nifer y trenau sy’n dod i orsafoedd blaenau’r cymoedd o ddwy yr awr i bedair.

Bydd hefyd yn mynd tuag at foderneiddio gorsafoedd i wella mwy ar deithiau defnyddwyr trenau.

“Cysylltu cymunedau”

“Mae Metro De Cymru yn rhan bwysig o’n huchelgais fel llywodraeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu cymunedau a phobol y Cymoedd yn well gyda chyfleoedd am waith,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae’r cadarnhad heddiw o £119m o gyllid yn golygu y gallwn fynd ymlaen a’r buddsoddiad mewn gwaith seilwaith ar reilffyrdd y cymoedd i ddarparu teithiau cyflymach a mwy effeithiol i’r miloedd o ddefnyddwyr y rheilffyrdd sy’n defnyddio’r lwybrau hyn bob dydd.”

Rhannu’r arian

Mae’r arian wedi cael ei rannu yn y modd hwn:

* £21.1m ar gyfer rheilffordd Merthyr

* £27.4m ar gyfer rheilffordd Treherbert;

* £23m ar gyfer rheilffordd Aberdâr;

* £19.5m ar gyfer rheilffordd Rhymni;

Bydd £27.3m hefyd yn cael ei glustnodi ar gyfer cynllun Depo Ffynnon Taf, a fydd yn cynnal a chadw cerbydau modern a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y Metro.