Mae un o aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn dweud bod y blaid Geidwadol yn mynd i gyfeiriad “peryglus” ar hyn o bryd – os ydi araith y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, ddoe, yn arwydd o unrhyw beth.

Dyna farn yr Arglwydd Roberts o Landudno yn dilyn y perfformiad mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham.

Mae Roger Roberts yn mynd mor bell â dweud bod “elfennau” yn yr araith sy’n ei atgoffa o’r Almaen yn yr 1930au, a’i fod yn gweld “perygl mawr” ar y gorwel.

“Dw i’n credu bod be’ glywson ni ddoe yn siarad cyfrolau am safbwynt y Blaid Geidwadol bod bron 1,500 o aelodau’r blaid wedi mynd i wrando ar y cyn-Ysgrifennydd Tramor yn traethu, tra oedd prif neuadd y gynhadledd yn gymharol wag,” meddai Roger Roberts wrth golwg360.

“Yr hyn dw i’n ei ofni ydi ei fod o’n ceisio cael cefnogaeth yr elfen fwyaf eithafol yn ei blaid ei hun ac yn y wlad hefyd…”

‘Stop and Search’ – creu rhwyg

Yn ei araith, fe alwodd Boris Johnson ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May, i “gael gwared ar Chequers”, sef y cynllun y mae hi’n dal i obeithio ei gyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Brexit.

Ond yr hyn sy’n destun pryder i Roger Roberts yw’r ffaith bod Boris Johnson wedi canmol polisi sy’n rhoi hawl i blismyn atal ac archwilio unigolion y maen nhw’n credu sy’n ymddwyn yn amheus.

Roedd y clodfori hwn, meddai’r arglwydd, yn ei bryderu gan ei fod ef ei hun wedi bod yn dyst i sut mae’r polisi’n cael ei weithredu ar strydoedd Llundain.

“Yr hyn ro’n i’n ei weld oedd mai’r rhai sy’n cael eu rhwystro ac yn cael eu holi oedd nid y bobol gwynion, ond y newydd-ddyfodiaid i’r wlad yma,” meddai.

“Mae’r ‘Stop and Search’ yma yn un elfen sy’n mynd â chi yn ôl, hwyrach, i’r 1930au draw yn yr Almaen.

“Mae yna elfen, dw i’n meddwl, beryglus o ofnadwy yn hyn… Mae o’n creu rhwyg yn y gymdeithas – rhwyg aruthrol. Ond y cyfan mae o’n ei wneud, mewn gwirionedd, ydi chwilio am y spotlight iddo fo’i hun.

“Mae o’n chwilio am gefnogaeth o unrhyw fan y gaiff o, ac mae ei olygon o ar Downing Street. Mae o’n troi fel y gwynt… mae o mor uchelgeisiol.”