Fe fydd cynllun newydd yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher, Hydref 3) i roi cynnig ar greu rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg.

Cwmni Golwg sydd y tu cefn i’r fenter i gydweithio gyda mudiadau a chymdeithasau mewn dwy ardal er mwyn datblygu syniad a allai, yn y pen draw, weithio ledled Cymru.

Mae’r cwmni wedi llwyddo gyda chais am ychydig tros £275,000 y flwyddyn am bedair blynedd i greu a chynnal y prosiect peilot, dan yr enw Bro360.

“Tua deugain mlynedd yn ôl, mi greodd papurau bro chwyldro yn y wasg Gymraeg ac ym mywyd cymunedau Cymraeg; mae’n bryd ceisio gwneud yr un math o beth ar gyfer y ganrif newydd a’r dechnoleg newydd,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth.

“Mi fyddwn ni’n chwilio am bobol frwdfrydig – pobol ifanc sy’n defnyddio a mwynhau’r cyfryngau newydd – i weithio efo ni i greu chwyldro bach arall ym maes y cyfryngau Cymraeg.

“Mae hwn yn gyfle anferth.”

Cynllun peilot

Cynllun peilot yw Bro360 a’r nod, meddai Golwg, yw dod o hyd i bartneriaid mewn dwy ardal i geisio creu dau glwstwr o wefannau bro.

Fe allai’r partneriaid gynnwys papurau bro, mudiadau a chymdeithasau ac unigolion – y nod yw creu gwasanaeth newydd a fydd yn defnyddio holl adnoddau’r Rhyngrwyd a gwefannau cymdeithasol, fideo a sain yn ogystal â geiriau a lluniau.

“Yr elfen beilot yn y cynllun ydi’r broses o ddod o hyd i bartneriaid, o gydweithio a chreu’r gwasanaeth newydd yma, efo’r nod o roi llwyfan i bob agwedd ar fywyd yr ardaloedd gwahanol trwy’r Gymraeg, efo pob bro yn cael ei gwefan ei hun,” meddai Dylan Iorwerth.

“Erbyn diwedd y pedair blynedd, gobeithio y bydd ganddon ni ffyrdd llwyddiannus o weithio fydd yn gallu cael eu rhannu efo ardaloedd eraill – pa bynnag fröydd sydd eisio cymryd rhan.”

Manylion y cynllun

Gobaith Golwg yw gweithio yn y lle cynta’ gyda dau glwstwr – yn Arfon yn y gogledd-orllewin ac yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion.

Mae sgyrsiau cychwynnol wedi bod gyda chynrychiolwyr i sefydlu bod diddordeb.

  • Fe fydd yr hyn sy’n cyfateb i bump o swyddi’n cael eu creu i gynnal y prosiect, gyda swydd cydlynydd yn cael ei hysbysebu yr wythnos hon.
  • Dwy swydd allweddol fydd rhai ysgogwyr – un ym mhob ardal – i godi diddordeb, ysbrydoli a hyfforddi.
  • Fe fydd meddalwedd newydd yn cael ei chreu’n ganolog, ond fe fydd y gwefannau unigol yn nwylo pobol leol.
  • Fe fydd golwg360 yn bwydo straeon perthnasol i’r gwefannau unigol ac yn datblygu straeon newyddion caled ar eu cyfer.
  • Erbyn diwedd y pedair blynedd, y gobaith yw creu cynlluniau busnes i gynnal y cynllun yn y tymor hir.