Mae system ddisgyblu Plaid Cymru yn “rhy eithafol a goddrychol” yn ôl cyn-aelod sydd wedi cael ei gwahardd am 12 mis.

Roedd Anne Greagsby yn arfer bod yn aelod o gangen Penarth, ac mae’n dweud bod y blaid wedi’i chyhuddo o dorri eu rheolau trwy “wahaniaethu” pan wyrthwynebodd faterion trawsrywiol.

Mae Anne Greagsby yn dweud bod “rhyddid barn” yn y fantol, ac mae’n gobeithio apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gwahardd.

“Mae gennym ni’r hawl i ryddid barn,” meddai wrth golwg360, “ac mae rhyddid barn yn golygu bod gennych chi’r hawl i ddigio pobol.

“Problem rhyddid barn yw hyn, ac mae yna broblem o fewn y blaid. Mae’n teimlo fel bod rhywun yn eich monitro trwy’r amser, ac yn dweud, ‘Na, allwch chi ddim dweud hynna’…

“Ond dim ond pobol benodol, sydd â chlust y swyddfa [ganolog]. Dyw pobol eraill ddim gyda’r [dylanwad yna]. Pam na all bobol anghytuno, a siarad am bethau?

“O ran materion traws, dylai bod pobol yn cael cyfle i drafod hynna yn iawn a chyfleu eu daliadau. Ddylen nhw beidio â thawelu pobol trwy broses disgyblu.”

Mae Anne Greagsby yn dweud bod mwy nag un person wedi cwyno yn ei herbyn, ac mae’n dweud bod dau achos penodol tu ôl i’w gwaharddiad. Y cyntaf yw cyfres o negeseuon Twitter ganddi ym mis Mawrth, gan gynnwys, “Does gan fenywdod ddim pidynnau” a “Dynion yw menywod traws”.

Cefndir 

Ymateb oedd hyn i gyhoeddiad dogfen gan Arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, o’r enw ‘Ffeministiaeth Gynhwysol’ – dogfen a oedd yn galw am drin pobol drawsrywiol yn gydradd.

Ei hail “pechod”, meddai,  yw ymddangos gerbron Pwyllgor Craffu Cyngor Bro Morgannwg yn ystod trafodaeth am hawliau pobol drawsrywiol.

Mae’r cyn-aelod yn dweud ei bod wedi clywed am y cwynion am y tro cyntaf rhai wythnosau yn ôl, a’i bod wedi ymddangos gerbron panel disgyblu dros wythnos yn ôl.

Clywodd am ei gwaharddiad, meddai, rhai dyddiau wedi’r gwrandawiad, ac mae’n dweud y bydd yn cyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad yfory.

Llythyr

Daw sylwadau Anne Greagsby wedi i Gwyn Hopkins – cyn-aelod o gangen Llanelli Plaid Cymru – feirniadu sustem ddisgyblu’r blaid mewn llythyr i’r Western Mail.

Yn y llythyr, mae’r ffigwr yn cyhuddo arweinyddiaeth Plaid Cymru o ddilyn eu rheolau “dim ond pan mae’n ei siwtio nhw”.

Ac mae’n ategu eu bod yn dangos “ffafriaeth amlwg tuag at aelodau penodol, a rhagfarn ofnadwy yn erbyn eraill.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.