Mae pwerau trwyddedu’r gwaith o chwilio am betrolewm ar dir  wedi cael ei ddatganoli i Gymru heddiw (dydd Llun, 1 Hydref).

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ei bod yn croesawu’r datblygiad heddiw.

Ym mis Gorffennaf roedd hi wedi amlinellu’r polisi mae hi’n ei ffafrio, sef na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw geisiadau am hollti hydrolig, neu “ffracio”, nac yn trwyddedu unrhyw waith i chwilio am betrolewm yng Nghymru.

Ers hynny, cafodd ymgynghoriad ei gynnal ar echdynnu petrolewm, a ddaeth i ben ar 25 Medi. Daeth mwy na 1,800 o ymatebion i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried y sylwadau a gafodd eu cyflwyno cyn mynd ati erbyn diwedd y flwyddyn i gadarnhau ei pholisi ar gyfer y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Hysbysu sy’n golygu na fydd awdurdodau lleol yn cael cymeradwyo ceisiadau am olew a nwy anghonfensiynol, gan gynnwys ffracio, heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Mae hynny’n cefnogi gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ddulliau echdynnu anghonfensiynol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Awdurdod Olew a Nwy y DU yn ystod y broses o drosglwyddo pwerau.

“Cyfrifol”

Dywedodd Lesley Griffiths: “Llosgi tanwyddau ffosil yw’r prif beth sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang ac mae yna dystiolaeth wyddonol hynod gryf sy’n dangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn niweidio’n planed. Yn lle edrych ar ffyrdd newydd o echdynnu tanwyddau ffosil, dylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

“Fel Llywodraeth, rhaid inni fod yn gyfrifol wrth reoli’n hadnoddau naturiol, gan wneud hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw, ond hefyd yr anghenion a fydd ganddyn nhw yn y dyfodol.”