Mae merch 18 oed wedi cael iawndal o bron i £20 miliwn gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Mae’n debyg mai dyma’r swm mwyaf erioed i gael ei dalu gan y GIG.

Cafodd y ferch anafiadau catastrophig i’w hymennydd ar ôl i feddygon fethu a rhoi digon o ocsigen iddi pan oedd hi’n fabi.

Roedd y ferch, na ellir cyhoeddi ei henw, wedi datblygu anawsterau pan oedd yn bum mis oed yn dilyn llawdriniaeth i wella ei phibell fwyd.

Yn ystod y llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd roedd hi wedi “troi’n las” o ganlyniad i ddiffyg ocsigen.

Fis diwethaf, roedd barnwr wedi dyfarnu bod meddygon wedi methu a rhoi digon o ocsigen i’r ferch cyn ac ar ôl iddi gael ataliad anadlol ym mis Chwefror 2000.

Mae’r ferch wedi derbyn swm o £2.1 miliwn ynghyd a thaliadau blynyddol o £203,000 am weddill ei bywyd. Mae’r setliad yn werth £19,774,265.

Dywedodd mam y ferch, sydd wedi gofalu amdani ers y driniaeth, bod ei merch “wedi ei chipio oddi arna’i. O’r funud honno fe newidiodd am byth.”

Serch hynny, fe ychwanegodd: “Fyswn i ddim yn ei newid am y byd a dw i ddim yn ei charu’n wahanol i beth fyswn i.”

Cafodd y setliad ei gyhoeddi gan yr Ustus Robert Harrison yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.