Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad heddiw (dydd Llun, Hydref 1) sy’n ystyried gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.

Yn ôl y llywodraeth, mae ymgynghoriad blaenorol wedi dangos bod “cefnogaeth enfawr” i wahardd yr arfer yng Nghymru.

O dan amodau’r ddeddf newydd, fydd dal croeso i syrcasau deithio Cymru, ond ni fydd ganddyn nhw’r hawl i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt.

“Anfon neges glir”

“Rydym yn credu y dylai anifeiliaid gwyllt gael eu trin gydag urddas a pharch fel bodau sydd â theimladau, ac ni ddylent gael eu trin fel gwrthrychau neu ddull o’n difyrru,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd gwaharddiad yn anfon neges glir fod pobol Cymru yn credu bod yr arfer hwn yn syniad hen-ffasiwn ac yn foesol annerbyniol.

“Rydym am i genedlaethau’r dyfodol o blant a phobol ifanc barchu a bod yn gyfrifol gydag anifeiliaid.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan Dachwedd 26.